Mahmoud Ahmadinejad
Mae Arlywydd Iran wedi dweud y bydd cyhoeddiad ynglŷn â llwyddiannau niwclear “mawr” yn cael ei wneud yn y dyddiau nesaf.

Ni wnaeth Mahmoud Ahmadinejad ddatgelu unrhyw fanylion, ond fe fynnodd na fyddai Iran yn atal ei rhaglen cyfoethogi wraniwm a all gael ei ddefnyddio i wneud arf niwclear.

Roedd Mr Ahmadinejad yn areithio mewn rali yn Tehran i ddathlu pen-blwydd yr wrthryfel Islamaidd yn y wlad 33 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd hefyd na fyddai Iran byth yn ildio i’r gorllewin os fyddai’n parhau i ddefnyddio “iaith grym a sarhad”.

Dywedodd yr Arlywydd Barack Obama yr wythnos ddiwethaf fod llywodraeth Israel yn iawn i fod yn bryderus ynglŷn â rhaglen niwclear Iran, ond nid oedd yn credu y byddai Israel yn lansio ymosodiad milwrol ar Iran.