Mae archddiacon Llanelwy a chyn Esgob Caergaint wedi cwestiynu’r penderfyniad llys diweddar sy’n datgan fod dweud gweddi ar ddechrau cyfarfodydd cyngor yn anghyfreithlon.

Roedd achos wedi cael ei ddwyn yn erbyn Cyngor Tref Bideford yn Nyfnaint gan y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol a chyn gynghorydd sy’n anghrediniwr.

Dywedodd yr Hybarch Chris Potter, Archddiacon Llanelwy, fod penderfyniad y llys yn un “od iawn.”

“Os ydy cynghorau eisiau cynnal gweddi cyn eu cyfarfodydd yna fe ddylsen nhw fod yn rhydd i wneud hynny,” meddai.

“Y cwestiwn ydy, beth fydd y terfyn?” ychwanegodd. “A fydd Munud i Feddwl yn dod yn anghyfreithlon a gwasanaethau gweddi mewn ysgolion?”

Dywedodd cyn Archesgob Caergaint George Carey ei fod yn poeni fod y ffydd Gristnogol yn wynebu cael ei gwthio i’r cyrion yn raddol. Dywedodd y dylai cynghorwyr barhau i weddïo.

Doedd rhyddid crefyddol ddim i’w weld yn flaenoriaeth mwyach, meddai.