Mae’r ddadl ynglŷn ag ynysoedd y Malvinas (ynysoedd y Falkland) wedi poethi ar ôl i’r Ariannin gyhuddo Prydain o filitareiddio’r sefyllfa trwy anfon llong danfor niwclear i’r ardal.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Ariannin, Hector Timerman, fod y llong danfor yn cario arfau niwclear ac fe anogodd y Cenhedloedd Unedig i wneud rhywbeth am y sefyllfa.

Mi wnaeth Llysgennad Prydain yn y Cenhedloedd Unedig, Syr Mark Lyall Grant, ymateb yn syth gan ddweud fod y cyhuddiad fod Prydain yn militareiddio’r sefyllfa yn absẃrd.

Ni fyddai Llywodraeth Prydain yn gwneud unrhyw sylw am leoliad arfau niwclear, meddai.