Arlywydd Bashar Assad
Fe fydd gweinidog tramor Rwsia yn cyrraedd Damascus heddiw i gynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd Bashar Assad.

Daw ymweliad Sergei Lavrov yn dilyn ymosodiadau ffyrnig a didrugaredd ar ddinas Homs, yn ogystal â brwydro yng ngogledd Syria a Damascus.

Ddoe, cafodd llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yno ei gau  a chafodd llysgennad Prydain ei alw’n ôl o Syria.

Ddydd Sadwrn, roedd Rwsia  a China wedi defnyddio feto i wrthwynebu ymdrech gan y Cenhedloedd Unedig i geisio dod â diwedd i’r trais.

Mae lluoedd y Llywodraeth yn parhau i danio taflegrau ar ddinas Homs heddiw. Yn ôl adroddiadau mae cannoedd o bobl wedi eu lladd ers y penwythnos pan ddechreuodd yr ymosodiadau.