Arlywydd Bashar Assad
Mae llysgennad Syria yn Llundain wedi cael ei alw i’r Swyddfa Dramor i drafod y trais “hollol annerbyniol” yn y wlad.

Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi galw llysgennad Prydain yn Damascus yn ôl i Lundain ar gyfer ymgynghoriad ynglyn â’r trafferthion diweddara wrth i’r Arlywydd Bashar Assad ymosod ar brotestwyr yn y wlad.

Mae William Hague hefyd wedi beirniadu Rwsia a Cheina am ddefnyddio eu feto yn erbyn ymdrech gan y Cenhedloedd Unedig i ddod â diwedd i’r trais.

Fe fu rhagor o ymosodiadau ffyrnig ar ddinas Homs heddiw a chredir bod 23 o bobl wedi eu lladd  ar ol i ysbyty dros dro gael ei daro gan fomiau. Mae’n debyg bod 10 o bobl eraill wedi eu lladd mewn ymosodiadau eraill.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi cau eu  llysgenhadaeth yn Damascus oherwydd pryderon bod Assad yn bwriadu cynnal rhagor o ymosodiadau i ddod â diwedd i’r protestiadau sydd wedi para am 11 mis. Mae hyd at 6,000 o bobl wedi eu lladd.