Allure of the Seas
Mae gwylwyr y glannau Mecsico yn chwilio am ddyn o Brydain a syrthiodd oddi ar long gwyliau mwyaf y byd.

Gwelwyd y dyn 30 oed yn disgyn dros y rheiliau gan deithiwr arall ar long Allure of the Seas, cyhoeddodd cwmni Royal Caribbean International heddiw.

Roedd gan y cwmni hefyd fideo camera cylch cyfyng oedd yn ei ddangos yn syrthio i’r dŵr, tua 7.10am (12.10pm amser Cymru) ddoe.

Disgynnodd y dyn oddi ar y llong wrth iddi hwylio i Cozumel, Mecsico. Gadawodd y llong Fort Lauderdale yn Florida ddydd Sul. Mae’n gallu cario 4,500 o deithwyr.

Dyw’r cwmni ddim wedi cyhoeddi enw’r dyn.

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r adroddiadau ac mi fyddwn ni’n ymchwilio iddyn nhw,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

“Mae ein tîm gofal yn darparu cefnogaeth ar gyfer teulu’r teithiwr ac rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw ac yn gweddïo drostyn nhw,” meddai’r cwmni mewn datganiad.