Mae’r Llynges Frenhinol wedi anfon llong danfor niwclear i Ynysoedd y Falklands yn dilyn tensiynau rhwng Prydain a’r Ariannin.
Y gred yw bod naill ai HMS Tireless neu HMS Turbulent wedi ei anfon i’r ynys er mwyn ei amddiffyn rhag byddin yr Archentwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oedden nhw’n fodlon cynnig sylw ar y mater.
Yn ôl papur newydd y Daly Mail roedd y Prif Weinidog wedi cymeradwyo cynllun i un o’r llongau tanfor deithio i’r Falklands.
Fe fydd y llong danfor yn cyrraedd yr ynys erbyn 30ain pen-blwydd y rhyfel ym mis Ebrill, meddai ffynonellau’r papur.
Daw’r newyddion wrth i Ddug Caergrawnt deithio i’r Falklands er mwyn gwasanaethu yno am chwe wythnos.