Mae eira trwm a thywydd garw wedi lladd o leia 32 o bobl ar draws dwyrain Ewrop heddiw wrth i ysgolion gau,  ffyrdd fod ar gau a nifer heb gyflenwad trydan.

Wrth i’r tymheredd ostwng i -20C o dan y rhewbwynt, bu’n rhaid i’r awdurdodau agor canolfannau brys ac annog pobl i aros yn eu cartrefi.

Dywedodd llywodraeth yr Wcrain bod 18 o bobl wedi marw o hypothermia yn ystod y dyddiau diwethaf a bod hyd at 500 o bobl wedi cael cymorth meddygol am ewinrhew a hypothermia o fewn tri diwrnod wythnos diwethaf.

Roedd y tymheredd wedi gostwng i -16C yn ystod y dydd a -23C gyda’r nos.

Mae o leiaf 10 o bobl wedi rhewi i farwolaeth yng Ngwlad Pwyl ers dydd Gwener wrth i’r tymheredd blymio i -26C. Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth mai pobl oedrannus a’r digartref oedd ymhlith y meirw.

Yn Serbia, mae tri o bobl wedi marw a dau ar goll wrth i eira trwm a gwyntoedd cryfion achosi problemau mawr yn y wlad.

Yn Bwlgaria, mae’r awdurdodau wedi agor canolfannau brys ar gyfer y digartref ar ôl i ddyn 57 oed rewi i farwolaeth mewn pentref yng ngogledd-orllewin y wlad.

Ym Mhrague, mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi cynlluniau i godi pebyll ar gyfer hyd at 3,000 o bobl ddigartref.