Arlywydd Assad Syria
Mae’r sefyllfa yn Syria yn gwaethygu wrth i fyddin y llywodraeth ymosod yn ffyrnig ar ardaloedd dwyreiniol a gogleddol y brifddinas Damascus sydd o dan reolaeth y gwrthryfelwyr.

Mae tystion yn dweud bod degau o bobl wedi cael eu lladd yn yr ymladd gwaethaf ers i’r gwrthryfel gychwyn ddeg mis yn ôl.

Mae’n ymddangos bod pethau yn mynd o ddrwg i waeth yn dilyn penderfyniad y Gyngrhair Arabaidd i roi’r gorau i fonitro’r sefyllfa wleidyddol yn y wlad oherwydd y trais yno ac ar ôl i’r Gyngrhair gyflwyno cynnig newydd i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gaiff ei drafod o bosib yr wythos nesaf.

Mae llywodraeth Syria yn honni bod rhoi’r gorau i fonitro yn ymgais i ddylanwadu ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Cyflwynwyd y cynnig yn ffurfiol gan Morocco ond cafodd ei lunio gan Brydain a Ffrainc yn dilyn ymgynghoriad efo Qatar, Morocco, yr Almaen a’r UDA.

Gwnaed honiadau llywodraeth yr Arlywydd Assad mewn darllediad ar deledu Syria ac ychwanegwyd mai bwriad hyn oll oedd dylanwadu ar drafodaethau’r Cyngor er mwyn cefnogi’r alwad am ymyrraeth gan wledydd eraill yng ngwleidyddiaeth Syria ac annog grwpiau arfog yno i ddwysau eu hymgyrchoedd.

Mae llysgennad Prydain i’r Cenhedloedd Unedig, Mark Lyall Grant yn dweud ei bod yn bryd cefnogi’r Gyngrhair Arabaidd. Mae llysgennad Rwsia sydd yn fwy cefnogol o lywodraeth yr Arlywydd Assad yn anghytuno ac wedi dweud bod y cynnig “yn croesi ein llinellau coch”.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Gyngrhair Arabaidd wedi bod yn llym ei feirniadaeth o Lywodraeth Syria. Dywedodd Nabil el-Araby bod y llywodraeth wedi dwysau eu gweithrediadau militaraidd a hynny’n gwbl groes i’w haddewidion i roi’r gorau i geisio rhoi taw ar eu gwrthwynebwyr.

Ychwanegodd mai ‘ dinasyddion diniwed” sy’n dioddef oherwydd y trais a gwrthododd honiadau llywodraeth Syria mai ymladd “terfysgwyr” mae nhw.

Bydd cynrychiolwyr gwledydd Arabaidd ardal y Gwlff ynghyd â Twrci yn cyfarfod yn Istanbwl yn fuan er mwyn ceisio darbwyllo gwledydd a mudiadau rhyngwladol eraill i gefnogi’r cynnig newydd.