Cyrnol Gaddafi
Mae tystiolaeth newydd ar gael bod cefnogwyr cyn Arlywydd Libya, Cyrnol Gaddafi, yn cael eu curo, a’u chwipio a’u poenydio efo trydan mewn carchar yn Mistara yn ôl y BBC.

Mae pennaeth cyngor militaraidd y ddinas wedi gwadu’r honniadau ond mae pennaeth Iawnderau Dynol y Cenhedlaeodd Unedig, Navi Pillay wedi galw ar lywodraeth dros dro Libya i gymeryd rheolaeth dros holl garchardai y wlad.

Yn gynharach yr wythnos yma cyhoeddodd yr elusen meddygol Medecins Sans Frontiers bod eu meddygon am roi’r gorau i weithio mewn un canolfan gadw yn Misrata oherwydd y cynnydd dychrynllyd mewn achosion o arteithio yno ac mae un o ohebwyr y BBC bellach wedi llwyddo i gael mynediad i’r ganolfan.

Dywedodd rhai o’r carcharorion eu bod yn cael eu cludo o’r carchar i safle sy’n cael ei ddefnyddio gan y fyddin genedlaethol i’w holi a’u harteithio. Ychwanegodd eraill bod yr arteithio yn digwydd cyn iddyn nhw hyd yn oed gyrraedd y carchar.

Mae’r carcharorion yn cytuno nad yw’r arteithio yn digwydd yn y carchar ei hun ond dywed y rheolwyr yno nad oes modd iddyn nhw atal y fyddin rhag mynd a’r carcharorion oddi yno.

Mae pennaeth cyngor milwrol Mistara, Ibrahim Beitelmal yn gwadu unrhyw honniadau o gamdrin gan ddweud bod gan y rhai sy’n gwneud y cyhuddiadau agenda gudd.

“Dwi’n credu bod y rhai sy’n galw eu hunain yn weithwyr i sefydliadau iawnderau dynol neu feddygon heb ffiniau yn bumed golofn ar ran Gaddafi. Efallai bod yna ambell achos o rebels yn dial ar gefnogwyr y Cyrnol ond ‘dyw hynna ddim yn golygu bod y gorchmynion i arteithio carachorion yn dod o fy swyddfa i,” meddai.