Lynette White
Mae’n ‘anhebygol’ y bydd darganfod dogfennau allweddol yn ymwneud a’r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yn arwain at achos arall yn erbyn wyth cyn-blismyn o Heddlu de Cymru yn ôl yr arbenigwr cyfreithiol Winston Roddick QC.
Daeth yr achos yn erbyn yr wyth i ben yn sydyn ym mis Rhagfyr wedi i’r barnwr yn llys y goron Abertawe ddatgan na fyddai nhw’n cael achos teg am fod tystiolaeth ar goll. Dyfarnwyd felly bod yr wyth yn ddi-euog.
Dydd Iau diwethaf beth bynnag cyhoeddodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu bod y dogfennau wedi cael eu canfod mewn bocsys ym meddiant Heddlu De Cymru a bod y Llu wedi gofyn i’r Comsiwn ymchwilio i’r mater.
Roedd 5 cyn-blismon wedi gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth Lynette White mewn fflat yng Nghaerdydd yn 1988. Roedd un cyn – blismon a dau arall hefyd wedi gwadu dweud celwydd ar lw. Cafodd tri gwr o Gaerdydd – Tony Paris, Yusef Abdullhai a Stephen Miller – eu carcharu ar gam am oes yn 1990.
Cafodd y tri eu rhyddhau yn 1992 ac fe ail- agorwyd yr ymchwiliad yn 2000 yn dilyn derbyn tystiolaeth newydd. Carcharwyd Jeffrey Gafoor o Gaerdydd am oes am lofruddio Lynette White yn 2003.
Roedd Mr Roddick wedi awgrymu bore Gwener y byddai modd cynnal achos arall yn erbyn y cyn – blismyn os oedd y dystiolaeth yn ‘rymus’ a hynny er budd y cyhoedd. Bellach mae wedi datgan bod y dystiolaeth yn debygol o ffafrio’r amddiffyniad yn hytrach na’r erlyniad ac felly nid yw’n diwallu’r meini prawf er mwyn gwneud cais swyddogol am achos arall.
Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu’r achos, sydd wedi costio hyd at £30m hyd yn hyn.