Fe adawodd milwyr yr UDA ym mis Rhagfyr
Cafodd 14 o bobol eu lladd a 75 eu hanafu mewn tri ffrwydrad  ar wahân yn nwyrain Baghdad, yn ôl yr heddlu.

Mae’r trais yn Irac wedi cynyddu yn y mis ers i filwyr yr Unol Daleithiau adael y wlad ar 18 Rhagfyr ac wrth i’r argyfwng gwleidyddol waethygu.

Mae cyfres o ymosodiadau bom wedi lladd o leiaf 170 o bobl ers dechrau’r flwyddyn, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn bererinion Shiite yn mynychu gwasanaethau crefyddol.

Y gred yw fod gwrthryfelwyr Sunni wedi bod yn targedu cymunedau Shiaidd a lluoedd diogelwch Irac mewn ymdrech i danseilio hyder y cyhoedd yn y Llywodraeth, sydd â mwyafrif o aelodau Shiaidd, a’i hymdrechion i ddiogelu pobl.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad cyntaf yn gynnar yn y bore yn ninas Sadr pan ffrwydrodd bom mewn car. Cafodd wyth  eu lladd a 21 eu hanafu.

Funudau’n ddiweddarach, fe ffrwydrodd bom arall mewn car ger siop yn yr un ardal gan ladd tri o bobl ac anafu 26, meddai’r heddlu. Ac yn ddiweddarach fe fu ffrwydrad arall a laddodd 3 o bobl ac anafu 29.