Mae un o brif weithredwyr y cwmni sy’n berchen ar llong Costa Concordia a darodd y creigiau ger arfordir yr Eidal wedi honni fod y capten wedi camarwain y criw.
Dywedodd y Prif Weithredwr Pierluigi Foschi wrth sianel deledu Eidalaidd fod y cwmni wedi siarad â’r capten am 10.05pm, ryw 20 munud ar ôl i’r cwch daro’r creigiau ar 12 Ionawr.
Ond nid oedd y cwmni yn gallu helpu’n iawn am nad oedd disgrifiad y capten o beth ddigwyddodd “yn cyd-fynd â’r gwirionedd,” meddai.
Ychwanegodd fod y capten, Francesco Schettino,, wedi dweud fod “broblemau” ar y cwch ond nad oedd wedi crybwyll taro’r greigres.
Ni chafodd aelodau’r criw wybod pa mor ddifrifol oedd oedd y gwrthdrawiad chwaith, meddai.
“Doedd [y criw] ddim wedi cael gwybod pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa,” meddai Pierluigi Foschi.
Mae delweddau a sain a recordwyd gan deithwyr ar y llong yn dangos fod y criw wedi parhau i ddweud wrth bobol i ddychwelyd i’w cabanau am 10.25pm.
Cafodd y teithwyr wybod bod rhaid gadael y cwch am 11pm.
Roedd 4,200 o bobol ar y cwch £290 miliwn ac mae plymwyr yn parhau i chwilio am 21 sydd ar goll. Daeth cadarnhad fod 11 eisoes wedi marw.