Chicago ar ddiwrnod brafiach
Mae’r awdurdodau yn Chicago wedi atal cerbydau rhag teithio ar ffordd sy’n amgylchynu Llyn Michigan fel nad ydyn nhw’n cael eu caethiwo yno gan eira trwm.

Cafodd cannoedd o geir eu dal ynddo  ym mis Chwefror y llynedd ar ôl i 20 modfedd o eira syrthio ar y ddinas. Gelwir y digwyddiad yn “snowmageddon” yn lleol.

Dywedodd Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau fod disgwyl i wyth modfedd o eira ddisgyn yno heddiw.

Yn ôl llefarydd ar ran yr adran trafnidiaeth roedden nhw wedi penderfynu cau’r ffordd oherwydd lluwchfeydd eira a rhew ar y wyneb.

Ychwanegodd Adran Hedfan Chicago fod 700 o awyrennau wedi eu hatal rhag gadael meysydd awyr Chicago, y rhan fwyaf o Faes Awyr Rhyngwladol O’Hare.