Dinas Cairns (adz CCA 3.0)
Mae talaith Queensland yn Awstralia’n paratoi am y storm fwya’ erioed yn ei hanes, a hynny ychydig wythnosau ar ôl llifogydd gwael.
Mae Prif Weinidog y dalaith wedi rhybuddio trigolion yn ardal un o’r dinasoedd mwya’, Cairns, mai dim ond ychydig oriau sydd ganddyn nhw i ddianc rhag seiclon pwerus.
Mae disgwyl y bydd y storm yn taro Queensland yn nwyrain Awstralia rhwng Cairns a thref o’r enw Innisfail. Oherwydd ei bod mor gry’, fydd hi ddim yn tawelu nes cyrraedd ymhell i mewn i’r tir.
Peryg o farwolaethau
Yn ôl Anna Bligh, mae yna beryg gwirioneddol y bydd pobol yn cael eu lladd mewn gwyntoedd sy’n chwythu ar bron 190 milltir yr awr a gyda chymaint â throedfedd o law.
“Peidiwch ag aros i gasglu bagiau – ewch,” meddai mewn darllediad teledu, gan rybuddio am wyntoedd dychrynllyd a chenlli o law. “Mae’r cyfle i ddianc yn cau’n gyflym.”
Mae’r 164,000 o bobol sy’n byw yn Cairns wedi cael cyngor i ddianc neu baratoi, trwy storio dŵr a thorri canghennau coed a allai achosi difrod. Mae disgwyl y bydd cyflenwadau trydan a gwasanaethau ffôn symudol yn cael eu colli.