Mae’r ymennydd gallu dechrau dirywio yn 45 oed, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r gyfres o arbrofion wedi datgelu fod gallu’r ymennydd i gofio, rhesymu a deall yn dechrau dirywio llawer ynghynt na’r disgwyl.

Roedd yr arbenigwyr wedi credu mai yn 60 oed oedd y meddwl yn dechrau dirywio.

Fe fuodd ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Epidemioleg ac Iechyd Poblogaeth yn Ffrainc a Choleg y Brifysgol Llundain yn y Deyrnas Unedig yn astudio mwy na 7,000 o bobol dros gyfnod o 10 mlynedd.

Roedd eu hymchwil yn canolbwyntio ar weision sifil oedd rhwng 45 a 70 oed pan ddechreuodd yr arbrawf yn 1997.

Roedd gallu ymenyddol y gweision sifil yn cael ei fesur tair gwaith y flwyddyn dros gyfnod o 10 mlynedd, er mwyn asesu’r cof, geirfa, clyw, a sgiliau dealltwriaeth weledol.

Roedd y tasgau’n cynnwys ysgrifennu gymaint o eiriau yn dechrau gyda’r llythyren S a phosib, a chymaint o enwau anifeiliaid ag yr oedden nhw’n gallu eu cofio.

Roedd pob un o’r sgoriau, heblaw’r eirfa, yn gostwng ymhlith bob grŵp oedran yn ystod yr astudiaeth, ac roedd yna dystiolaeth o ddirywiad cynt ymhlith pobol hŷn.

Mewn dynion, roedd gostyngiad o 3.6% mewn rhesymeg ar ôl 10 mlynedd ymhlith y rhai oedd rhwng 45 a 49 ar ddechrau’r astudiaeth a 9.6% ymhlith y dynion oedd rhwng 65 a 70 ar ddechrau’r astudiaeth.

Mewn menywod, roedd y gostyngiad yn 3.6% yn y grŵp cyntaf, a 7.4% yn yr ail grŵp.

Yn ôl casgliadau’r adroddiad, mae “dirywiad ymenyddol eisoes yn amlwg ymhlith y canol oed (45-49 oed)”.

Iechyd corfforol yn cynnal y cof

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r oes hon yn gweld cyflyrau fel dementia yn datblygu’n gynt mewn dioddefwyr oherwydd newidiadau tymor hir dros y 20 i 30 mlynedd diwethaf.

Mae gwaith ymchwil eisoes wedi dangos pwysigrwydd bywyd iach a chalon iach wrth leihau’r risg o gael dementia yn ddiweddarach mewn bywyd, ac mae arbenigwyr Alzhemier’s yn dweud bod angen annog pobol i gofio hyn yn eu bywydau bob dydd.

Yn ôl Dr Simon Ridley, pennaeth ymchwil yn Alzheimer’s Research UK, mae “ymchwil eisoes yn dangos fod ein hiechyd canol oed yn effeithio ar y risg o gael dementia wrth i ni heneiddio, ac mae’r darganfyddiadau hyn i gyd yn rhoi rheswm i ni gadw at ein haddunedau blwyddyn newydd.

“Er nad oes yna ffordd bendant o atal dementia eto, rydyn ni yn gwybod fod newidiadau syml i’n ffordd o fyw – fel bwyta’n iach, peidio ysmygu, a chadw pwysedd gwaed a cholesterol yn isel – yn gallu lleihau’r risg o ddatblygu dementia.”