Mitt Romney
Yn Iowa, mae’n ymddangos bod Mitt Romney wedi ennill y ras i ddewis ymgeisydd y gweriniaethwyr o drwch blewyn.

Dywedodd cadeirydd y blaid, Matt Strawn, bod Mitt Romney wedi ennill o wyth bleidlais yn unig ar ddechrau’r gystadleuaeth i ddewis ymgeisydd i herio’r Arlywydd Barack Obama yn Des Moines.

Roedd Mitt Romney, cyn  lywodraethwr Massachusetts, wedi ennill y blaen ar gyn seneddwr Pennsylvania, Rick Santorum.

Dywedodd Matt Strawn bod Mitt Romney wedi cael 30,015 o bleidleisiau a bod Rick Santorum wedi cael 30,007.