Hong Kong
Mae bacteria sy’n achosi’r clefyd Legionnaire’s wedi ei ddarganfod ym mhencadlys newydd sbon Llywodraeth Hong Kong sydd wedi costio £432 miliwn.

Cafodd profion eu gwneud ar ôl i’r ysgrifennydd addysg gael ei daro’n wael gyda’r salwch fis diwethaf.

Dywed awdurdodau iechyd bod profion dŵr gafodd eu gwneud yn ei swyddfa yn dangos bod na lefelau uchel iawn o facteria legionella yn bresennol.

Mae’r awdurdodau bellach yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.