Ysbyty Llwynhelyg
Bydd uned mân anafiadau rhai o ysbytai’r gorllewin yn cau dros dro o heddiw ymlaen, wrth i fwrdd Iechyd Hywel Dda ganoli’r gwasanaethau i Hwlffordd.
Mae staff ac adnoddau yn mynd i gael eu trosglwyddo o ysbytai yn Ninbych y Pysgod a Doc Penfro i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd o heddiw ymlaen.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud mai camau dros dro fydd cau’r unedau hyn yn y ddau ysbyty llai, er mwyn diogelu gwasanaeth damweiniau ac argyfyngau Ysbyty Llwynhelyg.
Mae’r penderfyniad wedi bod yn un dadleuol, gyda nifer o drigolion lleol yn Ninbych y Pysgod a Dociau Penfro yn pryderu y bydd y camau dros dro yma’n ddechrau ar drefniant mwy parhaol o gau gwasanaethau yn yr ysbytai llai.
Fe fu dros 100 o drigolion yn cyfarfod ddyddiau’n unig cyn y Nadolig, pan gyhoeddwyd y trefniadau newydd, er mwyn trafod y pryderon hyn gyda’r Bwrdd Iechyd.
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gwadu bod y trefniant yn ddechrau ar ffordd mwy parhaol o ganoli’r gwasanaethau i Ysbyty Llwynhelyg.
Newidiadau eraill ar y gweill
Daw’r newid wrth i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ystyried newidiadau mwy pellgyrhaeddol i wasanaethau iechyd y Gorllewin.
Cyn y Nadolig fe gyhoeddodd penaethiaid y Bwrdd Iechyd eu bod yn dechrau ar “ymarferiad gwrando” er mwyn newid y gwasanaethau sy’n cael eu cynnal yn ysbytai’r awdurdod.
Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda Trevor Purt, a’r Cadeirydd Chris Martin, wedi dweud y bydd pob un o ysbytai’r rhanbarth – Bronglais, Llwynhelyg, Glangwili a’r Tywysog Philip – yn parhau’n agored, ond bod yn rhaid newid y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yno er mwyn ymateb i “boblogaeth sy’n heneiddio” ac anawsterau staffio, ac arbenigedd meddygol.
Mae penaethiaid yr Awdurdod wedi galw’r cyfnod yn “ymarferiad gwrando” er mwyn cael syniad o’r ymateb cyhoeddus i’r cynlluniau – fyddai’n cynnwys dod a dau wasanaeth neonatal ac uned bediatryddol arbennig o fewn y sir am y tro cyntaf, ond yn golygu canoli gwasanaethau eraill ymhellach oddi wrth rhai cleifion.