Kim Jong Un yn sefyll ar falconi uwchben Sgwâr Kim Il Sung yn ystod ail ddiwrnod o seremonïau heddiw (AP Photo)
Mae llywodraeth Gogledd Korea wedi cadarnhau Kim Jong Un fel “goruchaf arweinydd” y wlad ar yr ail ddiwrnod cenedlaethol o alar ar ôl ei dad, Kim Jong Il.

Wrth i gannoedd o filoedd lenwi Sgwâr Kim Il Sung yng nghanol y brifddinas Pyongyang ar gyfer y seremonïau heddiw, roedd Kim Jong Il i’w weld yn sefyll yn gwylio ar falconi uwchben y sgwâr.

Fe fu farw Kim Jong Il, a gadwodd reolaeth lem ar ei 24 miliwn o bobl am 17 mlynedd, ar 17 Rhagfyr yn 69 oed. Fe ddaeth i rym yn 1994 wedi marwolaeth ei dad, Kim Il Sung, sylfaenydd y wladwriaeth.

Datgelwyd y llynedd mai ei fab ifanc, Kim Jong Un, oedd ei ddewis fel olynydd.

Mae Kim Jong Un wedi ei ddisgrifio â chyfres o deitlau newydd gan gyfryngau’r wlad ers marwolaeth ei dad: Yr Olynydd Mawr, y Goruchaf Arweinydd, a’r Arweinydd Doeth.

“Y cymrawd uchel ei barch Kim Jong Un yw goruchaf arweinydd ein plaid a’n byddin sy’n etifeddu ideoleg, cymeriad ac achos chwyldroadol y cymrawd mawr Kim John Il,” meddai llywydd Goruchaf Gynulliad y Bobl, Kim Yong Nam, wrth y dorf heddiw.

Fyth ers sefydlu’r wladwriaeth gan Kim Il Sung yn 1948, mae’r un teulu wedi dal grym absoliwt yn y wlad.