Tokyo
Mae erlynwyr yn Japan wedi cynnal cyrch ar bencadlys cwmni Olympus heddiw, fel rhan o’u hymchwiliad i honiadau bod y cwmni wedi celu colledion anferth.

Cafodd y cyrch ar bencadlys y cwmni, sy’n cynhyrchu camerau ac offer meddygol, yn Tokyo ei ddarlledu ar deledu cenedlaethol.

Dywed Olympus y bydd yn cyd-weithredu gyda’r ymchwililad gan erlynwyr, yr heddlu a’r awdurdodau cyllid.