Bradley Mannin
Ymrafael gyda bod yn ddyn hoyw ym myddin yr Unol Daleithiau oedd un o’r pethau a wnaeth i filwr a gafodd ei fagu yng Nghymru ollwng cyfrinachau.
Fe ddywedodd cyfreithwyr Bradley Manning wrth wrandawiad disgyblu bod ei rywioldeb – pan oedd hynny’n groes i reolau’r fyddin – wedi creu tensiwn a phroblemau meddwl a ddylai fod wedi sicrhau nad oedd yn cael mynd yn agos at wybodaeth sensitif.
Mae cannoedd o bobol wedi bod yn protestio o blaid y dyn 24 oed a gafodd ei fagu’n rhannol yn Sir Benfro. Roedd yn dathlu ei ben-blwydd ddoe.
Roedd wedi gollwng llawer o wybodaeth werthfawr i wefan ddatgelu Wikileaks ac, yn ôl Llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd hynny wedi peryglu ffynonellau a bywydau.