Ben a Cath Mullany
Poen a galar y ddau deulu oedd y prif ysgogiad tros ymdrech pum plismon o wledydd Prydain i ddod o hyd i lofruddion Cath Mullany o Gwm Tawe a’i gŵr.

Ddeuddydd ar ôl i ddau ddyn gael eu carcharu am oes am ladd y ddau yn Ynys Antigua yn 2008, mae arweinydd yr heddlu a aeth yno wedi datgelu pa mor anodd oedd yr ymchwiliad.

Roedd y Gymraes 31 oed a’i gŵr, Ben, wedi cael ei llofruddio gan ddau ddyn lleol ar noson ola’ eu mis mêl.

Doedd gan heddlu lleol ddim o’r adnoddau sydd gan heddlu gwledydd Prydain, meddai’r Ditectif Uwcharolygydd Keith Niven o Heddlu Llundain. Ac roedd y gwres mawr yn golygu bod DNA’n dirywio’n gyflym.

Roedd y tîm yn cynnwys y Ditectif Arolygydd Mike Cranswick o Heddlu De Cymru a’r Rhingyll Jack Pugh.

Poen ac arswyd

“Y boen a’r arswyd yr oedd eu teuluoedd yn ei ddioddef oedd y prif ysgogiad tros sicrhau ein bod yn llwyddiannus,” meddai Keith Niven.

“O weld y lefelau gormodol o drais a ddefnyddiwyd, am cyn lleied o eiddo, dw i’n sicr mai llofruddio oedd y prif ysgogiad yn hytrach na dwyn.”

Y cam cynta’ wrth ddatrys y drosedd oedd dod o hyd i ffôn symudol Ben Mullany.