Y llifogydd ar Ynys Mindanao
Mae llifogydd sydyn yn dilyn storm drofannol wedi lladd dros 430 o bobl ar ynys Mindanao yn ne’r Philipines.

Cafodd dros gant o blant eu lladd yn ninas Cagayan de Oro.

Mae cannoedd hefyd ar goll a dywed yr awdurdodau bod nifer y marwolaethau yn debygol o gynyddu.

Digwyddodd y llifogydd yn sydyn iawn ynghanol y nos tra roedd pobl yn cysgu wrth i 25mm o law ddisgyn o fewn 24 awr gan orfodi pobl i heidio i dir uchel.

Gadawyd ardaloedd cyfan heb drydan hefyd wrth i wyntoedd cryfion o tua 55mya chwythu dros yr ynys.

Mae llifogydd wedi gorchuddio chwarter dinas Iligan a tua 10 pentref ar y cyrion yn ôl maer y ddinas, Lawrence Cruz.

“Dyma’r llifogydd gwaethaf yn hanes y ddinas,” meddai. “Digwyddodd popeth mor sydyn wrth i bobl gysgu.”

Mae asiantaethau achub eisioes wedi cyrraedd yr ardal i gynorthwyo’r trigolion yno.