Cafodd y llun eiconig o Carlos y Jacal ei ddefnyddio ar glawr albwm Black Grape aeth i rif un yn y siartiau yn 1995
 Mae Carlos y Jacal wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar – eto – mewn achos llys ym Mharis a ddaeth i ben gyda galwadau am chwyldro wrth iddo grio dros farwolaeth Muammar Gaddafi.

 Mae’r terfysgwr o Feneswela wedi bod dan glo ers i blismyn cudd Ffrengig ei gludo o Sudan mewn sach yn 1994. Mae eisoes ar ganol dedfryd oes mewn carchar yn Ffrainc am dair llofruddiaeth yn 1975.

 Cafodd Carlos – neu Ilich Ramirez Sanchez – ei gludo o’i gell ac yn ôl i’r llys fis diwethaf i wynebu cyhuddiadau o drefnu i ffrwydro boms yn Ffrainc yn 1982 a 1983, gan ladd 11 o bobol a niweidio dros 140.

 Cafwyd Carlos yn euog o bob un o’r pedwar ymosodiad, a’i ddedfrydu i oes yn y carchar, gyda pharôl posib ar ôl 18 mlynedd.

Trwy gydol y chwech wythnos o achos, fe fu’r gŵr 62 oed yn gwadu pob cysylltiad â’r ymosodiadau.

 Mae ei gyfreithwraig, sydd hefyd yn gariad iddo, Isabelle Coutant-Peyre, wedi dweud y bydd hi’n apelio ar ei ran. Mae hi’n dweud bod Carlos yn glaf i broses wleidyddol, ac mae hi wedi beirniadu ymchwilwyr am ddefnyddio archifau hen wledydd comiwnyddol i helpu’r erlyniad.

 Mae cyfreithwyr teuluoedd y dioddefwyr wedi croesawu’r penderfyniad, bron i dri degawd wedi’r bomio gwaedlyd.

Yn ystod y Rhyfel Oer, roedd enw Carlos y Jacal yn cael ei drafod ar draws prifddinasoedd Ewrop a’r Dwyrain Canol, oherwydd y gred ei fod yn gysylltiedig â chynlluniau herwgipio a llofruddiaethau ar ran grwpiau terfysgol, adain chwith Palesteinaidd.