Mae plant wedi eu gwahardd rhag rhoi cardiau Dolig i’w gilydd mewn ysgol yn Nyffryn Teifi.
Ond mae’r mesur ‘atal gwastraff’ yn Ysgol Gynradd Cenarth wedi dod yn destun ffrae, yn ôl papur lleol y Tivy Side Advertiser.
Mae rhieni wedi cwyno wrth eu papur lleol fod yr ysgol yn defnyddio “tactegau’r Getsapo” trwy gymryd cardiau oddi ar blant a’u rhoi yn y bin, ond mae’r ysgol yn gwadu fod hyn wedi digwydd.
Roedd y brifathrawes yn cadarnhau ei bod wedi gofyn i rieni’r 77 o blant yn yr ysgol i beidio ag anfon disgyblion yno gyda chardiau Nadolig, gan ddweud fod llawer o’r cardiau’n cael eu gadael ar lawr y dosbarth gan greu gwastraff mewn blynyddoedd a fu.
“Rydym ni’n ysgol eco gyfeillgar sy’n ceisio lleihau’r papur a cherdyn sy’n cael ei wastraffu,” meddai Gwyneth Alban.
“Mi wnaethon ni sgwennu at rieni eleni yn gofyn iddyn nhw beidio ag anfon eu plant i fewn gyda chardiau.
“Yn lle hynny rydym ni’n cael pob dosbarth i wneud cerdyn mawr ar gyfer y dosbarthiadau eraill, felly does ganddon ni ond tri cerdyn mawr.”
Mae rhwydd hynt i’r plant gyfnewid cardiau y tu allan i giatiau’r ysgol, meddai.