Jacques Chirac
Mae cyn arlywydd Ffrainc Jacques Chirac wedi ei gael yn euog o lygredd heddiw mewn achos ynglŷn â ariannu’r blaid geidwadol yr oedd yn arweinydd arni rhwng 1977-95.

Dywedodd y llys bod Chirac yn euog o ddau gyhuddiad yn ymwneud â swyddi ffug gafodd eu creu gan y blaid tra roedd yn faer Paris.

Nid oedd Chirac, 79, wedi cymryd rhan yn yr achos ar ôl i feddygon ddweud ei fod yn colli ei gof.

Chirac yw’r cyn-arweinydd cyntaf yn Ffrainc i gael ei erlyn ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Chirac wedi gwadu ‘r cyhuddiadau.