Barack Obama
Mae grŵp hynod geidwadol y ‘tea party’ wedi amddiffyn eu hymgyrch yn erbyn yr Arlywydd Barack Obama heddiw – er ei bod  wedi dod dan y lach gan ymgyrchwyr yn erbyn hiliaeth.

Mae’r grŵp – y Gynghrair Rhyddid Gwladgarol, o Kansas – yn disgrifio’r Arlywydd ar eu gwefan fel drewgi, neu skunk, am ei fod yn “hanner du, hanner gwyn, ac mae bron popeth mae’n ei wneud yn drewi.”

Mae’r gymhariaeth wedi cynddeiriogi ymgyrchwyr hawliau sifil, sydd wedi cyhuddo’r grŵp o ddefnyddio tactegau hiliol i geisio tanseilio’r Arlywydd

Yn ôl yr Hutchinson News, mae llywydd lleol y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Hyrwyddo Bobol Croen Lliw, Darrell Pope, wedi dweud bod yr ymgyrch yn gwbwl hiliol.

Ond mae cefnogwyr yr ymgyrch yn mynnu fod y cyn-ymgeisydd dirprwy-arlywyddol, Sarah Palin, wedi bod yn darged i gymhariaethau llawer gwaeth.