Mae dyn 27 oed o’r Almaen wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gynllun bomiau al Qaida yn Ewrop.
Dywedodd erlynwyr yn yr Almaen fod y dyn, Halil S, wedi ei arestio yn Bochum ar gyhuddiadau o fod yn aelod o grŵp terfysgol.
Mae’r dyn wedi ei gyhuddo o roi cefnogaeth ariannol ac ymarferol i dri dyn arall a gafodd eu harestio fis Ebrill ar amheuaeth o greu bom.
Dywedodd awdurdodau ar y pryd nad oedd y dynion wedi dewis targedau, ond eu bod yn arbrofi gyda ffrwydron.
Mae Halil S hefyd wedi ei gyhuddo o geisio cario mlaen gyda’r cynllun bomio ar ôl i’r tri arall gael eu harestio.