Roedd parth yr ewro yn ddiffygiol o’r cychwyn cyntaf a does dim digon wedi ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r problemau, yn ôl cyn-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd.
Dywedodd Jacques Delors, un o’r rheini fu’n gyfrifol am gyflwyno’r ewro, fod “gwall” wrth graidd y cynllun yn golygu na fyddai byth wedi llwyddo.
Roedd arweinwyr yn y 90au wedi dewis anwybyddu gwendid economaidd rhai o’r gwledydd oedd am ymuno â’r ewro, meddai.
Daw’r cyfweliad ym mhapur newydd y Daily Telegraph wrth i Ffrainc a’r Almaen obeithio sicrhau undeb ariannol llawn er mwyn atal chwalfa ariannol drychinebus.
Roedd Jacques Delors, sy’n 86 oed, yn llywydd ar y Comisiwn Ewropeaidd rhwng 1985 a 1995. Cyfaddefodd fod gan yr “Eingl-Sacsoniaid” bwynt wrth ddweud fod angen banc canolog ar barth yr ewro er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ariannol.
Ychwanegodd fod bai ar yr Almaen am fynnu na ddylai Banc Canolog Ewrop gefnogi gwledydd oedd wedi mynd i drafferthion rhag ofn i hynny arwain at chwyddiant uwch.
Fe fydd “hyd yn oed yr Almaen” yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ateb fel arall. “Mae’n farchnadoedd yn ansicr iawn ar hyn o bryd,” meddai.