Mae 11 wedi eu lladd ar ôl i fomiwr yrru car llawn ffrwydradau tuag at giat carchar ym Maghdad heddiw.

Digwyddodd yr ymosodiad yn nhref Taji, tua 12 milltir i’r gogledd o’r brifddinas.

Hon yw’r drydedd ymosodiad mawr mewn bron i wythnos yn Irac, ac mae’n codi cwestiynau dros allu lluoedd diogelwch y wlad i ddiogelu’r wlad, wrth i filwyr olaf yr Unol Daleithiau adael mewn ychydig dros fis.

Dywedodd swyddog o’r heddlu fod yr hunan fomiwr wedi gyrru tuag at brif giat carchar al-Hout tua 8am, amser lleol, pan oedd nifer o weithwyr a gwarchodwyr y carchar ar y ffordd i’w gwaith.

Roedd chwe swyddog yr heddlu ymhlith yr 11 gafodd eu lladd, tra bod y gweddill yn bobol gyffredin, meddai.

Mae’r trais wedi ildio rhywfaint ar draws Irac yn y misoedd diwethaf, ond mae bomio a saethu yn dal i ddigwydd yn ddyddiol bron, wrth i filwyr yr Unol Daleithiau baratoi i adael.

Ddydd Sadwrn fe darodd cyfres o ffrwydradau ar draws marchnad ym Maghdad, ac ardal ar gyrion gorllewinol y ddaear, gan ladd o leia’ 15 o bobol. Tridiau ynghynt, lladdwyd 19 o bobol yn ninas deheuol Basra.

Mae swyddogion diogelwch Irac yn mynnu eu bod nhw’n barod ar gyfer ymadawiad milwyr yr UDA, a gytunwyd yn 2008 rhwng yr UDA ac Irac. Mae 15,000 o filwyr yr Unol Daleithiau yn dal yn y wlad – ond ar uchafbwynt y gweithredu, roed 170,000 o filwyr yr UDA yn Irac.

Ond mae llawer o Iraciaid yn poeni y bydd gwrthryfelwyr yn defnyddio’r cyfnod hwn o newid i lansio rhagor o ymosodiadau, er mwyn adfer eu grym ac ansefydlogi’r wlad.