Iglw
Mae ymgyrchwyr sydd wedi eu hysbrydoli gan fudiadau Occupy Wall Street ac Occupy London yn bwriadu protestio yn y Swistir ym mis Ionawr.

Fe fydd enwau mawr gwleidyddol a busnes y byd yn cwrdd yn Davos yn yr Alpau ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Ond yn hytrach nag aros mewn pebyll fel eu cyd-brotestwyr yn Efrog Newydd a Llundain, mae’r ymgyrchwyr yn y Swistir yn bwriadu adeiladu iglw’r un yn yr eira.

Dywedodd llywydd plaid Sosialwyr Ifanc y Swistir, David Roth, ei fod wedi gwahodd ymgyrchwyr o bob cwr o’r byd i gymryd rhan yn y brotest.

Y nod fyddai tynnu sylw at “natur annemocrataidd” y cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal rhwng 25-29 Ionawr.

Dyw awdurdodau Davos ddim wedi rhoi caniatâd iddyn nhw gynnal y brotest eto, meddai.