Mae ffrwydrad mewn ffatri gemegau yn nwyrain China wedi lladd 13 o weithwyr ac anafu pump arall.
Dywedodd gwasanaetha newyddion y wladwriaeth fod y ffrwydrad wedi digwydd yn ninas Xintai yn rhanbarth Shandong.
Dywedodd Asiantaeth Newyddion Xinhua fod gweithwyr yn cyflawni gwaith cynnal a chadw ar gynhwysydd melamin yn y ffatri pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Ychwanegodd nad oedd unrhyw wenwyn wedi ei ryddhau. Mae melamin yn cael ei ddefnyddio er mwyn creu deunydd plastig a nwyddau eraill.
Dywedodd swyddog o lywodraeth dinas Xintai eu bod nhw’n ymchwilio i beth achosodd y ffrwydrad.
Roedd perchnogion y ffatri, Shandong Liaherd Chemical Industry, yn arfer bod yn eiddo i’r wladwriaeth ond bellach yn gwmni preifat, meddai.