Seif al-Islam yn y ddalfa
Mae’r rhyfelwyr gipiodd mab Muammar Gaddafi wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ei gadw dan glo nes bod system gyfiawnder Libya yn barod i’w erlyn.

Cafodd Seif al-Islam ei ddal ddoe wrth deithio ar draws anialwch deheuol Libya.

Dywedodd llefarydd ar ran y rhyfelwyr a ddaeth o hyd iddo fod Seif al-Islam tua 30 milltir i’r gorllewin o dref Obari ac yn ceisio ffoi dros y ffin i Niger gerllaw.

Maen nhw wedi awgrymu na fydden nhw’n fodlon ei gyflwyno i’r Llys Troseddol Rhyngwladol yn yr Iseldiroedd, sydd wedi ei gyhuddo o droseddau yn erbyn y ddynoliaeth.

Dywedodd pennaeth cyngor milwrol Zintan, y Cyrnol Mohammed al-Khabash, y bydd Seif al-Islam yn cael ei gadw yno am y tro.

Roedd yn disgwyl nes bod llywodraeth newydd y wlad yn sefydlu system gyfiawnder er mwyn erlyn y rheini oedd yn rhan o weinyddiaeth Muammar Gaddafi.

Mae teledu Libya wedi cyhoeddi llun o Seif al-Islam yn y ddalfa. Mae’n eistedd ar wely ac yn dal tri bys wedi’u rhwymo.

Dywedodd Osama Juwaid, llefarydd ar ran rhyfelwyr Zintan, ei fod wedi anafu ei law yn ystod ymgyrch fomio Nato.

Mae Seif al-Islam Gaddafi yn 39 oed ac ef yw plentyn hynaf Muammar Gaddafi o’i ail briodas â Safiya Gaddafi. Mae’n un o wyth o blant.