Mario Monti
Mae cyfranddaliadau ar farchnadoedd stoc yn Asia wedi gostwng eto heddiw wrth i bryderon gynyddu am allu’r Eidal i dalu ei dyledion anferth.

Roedd y marchnadoedd arian wedi cael hwb dros y dyddiau diwethaf wrth i wlad Groeg a’r Eidal ffurfio llywodraethau newydd a chymryd camau i fynd i’r afael â’u dyledion.

Ond mae na bryder o hyd am allu’r Eidal i dalu ei dyledion o 1.9 triliwn ewro pan nad yw economi’r wlad yn tyfu o gwbl.

Cafodd yr economegydd Mario Monti ei benodi yn olynydd i Silvio Berlusconi a ymddiswyddodd ddydd Sul.