Mae elusen yn ymgyrchu am fesurau i ddiogelu plant rhag hysbysebion alcohol.

Daw’r ymgyrch yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol ac mae Alcohol Concern Cymru’n pwysleisio sut mae rôl amlwg alcohol mewn cymdeithas yn effeithio ar blant a phobl ifanc.

Dywedodd rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell: “Mae gan bob un ohonon ni fel oedolion gyfrifoldeb o ran ystyried sut mae ein harferion yfed yn effeithio ar y plant a’r bobl ifanc o’n cwmpas. Mae’n rhaid i’r diwydiant diodydd dderbyn ei gyfrifoldebau hefyd.

“Er bod cyfreithiau hysbysebu alcohol y Deyrnas Unedig yn gwahardd targedu plant, mae hysbysebion alcohol o’n cwmpas ym mhobman, sy’n ei gwneud hi’n amhosibl gwarchod plant rhagddyn nhw.

“Mae hyn yn arbennig o wir pan fo cymaint o farchnata’r diwydiant diodydd yn gysylltiedig â diddordebau pobl ifanc, fel pêl-droed, gigiau a gwyliau cerddoriaeth.”

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod miliynau o blant Prydain wedi gweld hysbysebion am alcohol yn ystod gêmau Cwpan Pêl-droed y Byd yn 2010 ar y teledu, ac roedd hysbysebion a nawdd y diwydiant diodydd yn amlwg iawn yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011.

Yn ogystal â hyn, mae arolwg gan Alcohol Concern o fwy na 2,300 o blant a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr yn awgrymu nad yw plant dan 18 oed eu hunain yn hapus â’r ffordd y mae alcohol yn cael ei hyrwyddo a’i hysbysebu o’u hamgylch.

Mae’r arolwg yn dangos bod 60% am weld hysbysebion alcohol mewn sinemâu yn cael eu cyfyngu i ffilmiau gyda thystysgrif 18 yn unig; mae 58% am weld hysbysebion alcohol yn cael eu gwahardd ar y teledu cyn 9pm; ac mae 59% am weld hysbysebion alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau trwyddedig yn cael eu cyfyngu i’r mannau penodol lle mae alcohol ar werth.