Herman Cain Llun: Gage Skidmore
Mae dynes arall wedi cyhuddo Herman Cain, sy’n ceisio ennill enwebiad y Gweriniaethwyr ar gyfer ras arlywyddol 2012 yr Unol Daleithiau, o’i phoenydio yn rhywiol.
Dyma’r pedwerydd dynes i gyhuddo Herman Cain o’i phoenydio yn rhywiol.
Gwefan Politico sydd wedi cyhoeddi’r honiadau, gydag adroddiadau fod y ddwy ddynes gyntaf wedi gwneud cwynion swyddogol yn erbyn y cyn ŵr-busnes, cyn i drydedd ddynes ddod ymlaen i ddweud ei bod hithau hefyd wedi cael ei phoenydio ganddo, ond nad oedd hi am gymryd camau pellach.
Mae’r menywod i gyd wedi dweud bod Herman Cain wedi ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw yn ystod eu cyfnod yn y Gymdeithas Bwytai Cenedlaethol yn y 1990au hwyr.
Mae Herman Cain wedi gwadu’r honiadau, ac fe ddywedodd ddydd Sadwrn na fyddai’n fodlon ateb rhagor o gwestiynau ar y mater.
Hyd yn hyn, mae’r dacteg wedi talu ffordd i Herman Cain, sydd wedi llwyddo i gadw’i le yn y polau piniwn, ac wedi llwyddo i godi llawer iawn mwy o gyfraniadau ariannol i’w ymgyrch ers i’r newyddion dorri.
Daw’r sgandal dros weithgareddau preifat Herman Cain llai na deufis cyn i’r Gweriniaethwyr fwrw’u pleidlais dros bwy fydd yn cael ei ddewis i gynrychioli’r blaid yn erbyn Barack Obama am yr arlywyddiaeth yn 2012.
Ar hyn o bryd, mae Herman Cain i’w weld yn her gwirioneddol i’r un a fu’n ddewis amlwg i’r blaid yn ystod y misoedd diwethaf, Mitt Romney, ac mae’n ymddangos fod y sylw diweddar wedi gwneud llawer i godi proffil y newydd-ddyfodiad i wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.