Mae Donald Trump wedi dweud na fydd “hyd yn oed yn ystyried” newid enwau 10 safle milwrol yn yr Unol Daleithiau sydd wedi cael eu henwi ar ôl unigolion oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant caethwasiaeth.

Daw ei sylwadau wrth i brotestiadau gwrth-hiliaeth barhau ar draws y wlad.

Oriau’n unig ar ôl i’r Arlywydd Trump wrthod y galwadau, cafodd cofgolofn i’r cyn-Arlywydd Jefferson Davis ei dymchwel yn Richmond, Virginia.

Roedd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Mark Esper wedi awgrymu y byddai’n fodlon trafod y newidiadau yn dilyn angladd y dyn du George Floyd, a fu farw tra yng ngofal yr heddlu.

Wrth drydar ei ymateb dywedodd Donald Trump bod y safleoedd milwrol, fel Fort Bragg yng Ngogledd Carolina a Fort Benning yn Georgia, yn “rhan o dreftadaeth America”.

Mae’r rhai sydd o blaid newid yr enwau yn dadlau eu bod nhw’n clodfori dynion oedd wedi brwydro yn erbyn yr Unol Daleithiau.