Mae’r Oktoberfest ym Munich eleni wedi cael ei ganslo oherwydd y pandemig coronafeirws.

Roedd y dathliad blynyddol o gwrw i fod i gael ei gynnal rhwng Medi 19 a Hydref 4.

Mae canslo’r digwyddiad yn pwysleisio’r ffaith y gallai’r trywydd yn ôl i fywyd arferol fod yn un hirfaith.

Mae Oktoberfest yn denu oddeutu chwe miliwn o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn.

Ar ôl cyfarfod gyda Maer Munich ddydd Mawrth, dywedodd y llywodraethwr Markus Soeder ei fod “yn cytuno bod y risg yn ormod.”

“Nid yw’n bosibl cadw pellter na gweithio gan amddiffyn eich wyneb,” meddai.