Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn cyfres o ladradau mewn capeli yng Nghaernarfon.
Un o’r capeli oedd Capel Salem, gyda Chapel Caersalem hefyd yn cael ei dargedu gan y lladron.
“Yn dilyn nifer o ladradau mewn capeli lleol yn ddiweddar, cafodd chwe person eu harestio ar amheuaeth o ladrad, a bydd ein hymchwiliad yn parhau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd llanast mawr mewn rhannau o Gapel Salem megis y festri, ystafell y diaconiaid, y gegin, ac ystafell y bobol ifanc yng nghefn y festri a chafodd lloriau eu codi mewn rhai llefydd.
Ymysg yr eitemau gafodd eu dwyn mae system sain y capel, meicroffonau, ceblau, desg gymysgu, a hanner cit drymiau.
Dywedodd y Parchedig Mererid Mair wrth golwg360 fod “oglau mwg a chwrw” yn y festri.
“Mae’n gwneud i mi deimlo’n ddigalon bod unrhyw un wedi gallu gwneud y fath beth,” meddai.