Mae dyn 20 oed o Gaerdydd a gafodd ei arestio’n unol â’r Ddeddf Frawychiaeth bellach wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad.

Cafodd y dyn o ardal Cyncoed ei arestio dan Adran 5 y ddeddf dros y penwythnos.

Ac fe gafodd ei arestio eto yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â ffrwydron a chyffuriau, ac mae wedi’i ryddhau dan ymchwiliad mewn perthynas â’r troseddau honedig hynny.

Mae’r heddlu’n annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau amheus yn eu cymunedau.