Mae protestiadau yn erbyn ymateb llywodraeth yr Unol Daleithiau i’r coronafeirws – ac eraill yn eu cefnogi – ar gynnydd.

Mae sawl protest ar y gweill yn y wlad yr wythnos hon, gyda thorfeydd yn ymgasglu ger adeiladu’r llywodraeth a chartrefi moethus gwleidyddion yn Ohio, Oklahoma, Tecsas a Virginia.

Ymhlith y rhai sy’n amau’r rhesymau am gau bywyd cyhoeddus yn sgil y feirws mae grwpiau llywodraeth, cefnogwyr Donald Trump, gwrthwynebwyr brechu, pobol sydd o blaid yr hawl i brynu dryllau a chefnogwyr ymgyrchoedd asgell dde.

Mae pobol yn agored yn eu gwrthwynebiad i reolau’r gwarchae [lockdown] ac ymbellháu cymdeithasol.

Protestiadau

Mae maint y protestiadau’n amrywio o un lle i’r llall – o ddigwyddiadau bach sydd wedi’u trefnu trwy wefan gymdeithasol Facebook i ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu gan gefnogwyr cyfoethog y Gweriniaethwyr.

Cafodd y mwyaf o’r protestiadau hyd yn hyn ei chynnal yn nhalaith Michigan ddydd Mercher (Ebrill 15), wrth i filoedd o bobol ymgasglu ar y strydoedd, a’r rhan fwyaf yn gwisgo dillad â’r geiriau ‘Make America Great Again’ arnyn nhw ac yn chwifio baneri Donald Trump.

Mae Donald Trump yn awyddus i lacio’r cyfyngiadau ar deithio, ac i ail-gydio yn yr economi.

Fe wnaeth e gyflwyno fframwaith yr wythnos hon, gan gydnabod mai llywodraethwyr fyddai’n penderfynu pryd i weithredu arno.

Ond mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio y gallai llacio’r cyfyngiadau’n rhy gynnar arwain at ragor o achosion o’r feirws.

Ymateb Donald Trump

Mae Donald Trump yn dweud ei fod e’n cydymeimlo â’r protestwyr, gan ddweud eu body n “dioddef”.

Mae’n wfftio pryderon yr arbenigwyr iechyd, gan ddweud bod “pobol yn gwrando arnaf i”.

“Maen nhw i’w gweld yn brotestwyr sy’n fy hoffi i ac yn parchu’r farn hon, ac mae fy marn i’r un fath â’r holl lywodraethwyr eraill, bron iawn. Does neb eisiau aros ynghau.”