Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa’r profion coronafeirws yn “annerbyniol”.

Mae Angela Burns, llefarydd iechyd y blaid, wedi bod yn ymateb i newid y drefn o gynnal profion, a gafodd ei gyhoeddi gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 18).

Mae’n dweud ei bod hi’n “croesawu” newid y drefn, ond fod “mwy i’w wneud” a bod “dirfawr angen tîm ymroddedig yng Nghymru” sydd â “ffocws fel laser ar gynnal profion yn effeithiol ac yn gyflym”.

Ymateb y Ceidwadwyr

Er bod canolfannau profi wedi cael eu codi mewn sawl ardal yng Nghymru, dydy’r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn credu bod digon yn cael ei wneud i sicrhau bod mwy o brofion yn cael eu cynnal.

“Dw i’n gofidio, pan fo cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer canolfannau profi cymunedol a chanolfannau gyrru heibio yn y de, mae’r gorllewin a’r gogledd, wythnosau’n ddiweddarach, yn dal yn y tywyllwch,” meddai.

“Mae hyn yn annerbyniol ac mae angen ymateb iddo’n gyflym.

“Dydy cyhoeddiad y llywodraeth ddim yn mynd i’r afael â mater capasiti labordai, ac mae gwella capasiti yn allweddol i sicrhau bod profion yn cael eu prosesu’n gyflym a bod canlyniadau’n dychwelyd er lles unigolion.

“Unwaith mae’r materion hyn wedi cael eu datrys a bod capasiti profi’n cael ei gynyddu yn y pen draw, mae’n bwysig wedyn fod profi’n cael ei ymestyn ac yn cynnwys profi’r boblogaeth.

“Does neb yn gwybod eto am ba hyd fydd COVID-19 gyda ni, ac mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n codi stêm.”