Mae Arlywydd America Donald Trump wedi amddiffyn ei benderfyniad i ymestyn canllawiau’r cyfyngiadau ymbellháu cymdeithasol hyd at ddiwedd Ebrill, wrth baratoi’r genedl am fwy na 100,000 o farwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws.
Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl iddo fe wneud tro pedol dramatig a chyhoeddi na fyddai’n llacio’r canllawiau a chael yr economi yn ôl ar ei thraed erbyn y Pasg, fel y dywedodd yr wythnos ddiwethaf.
Yn hytrach, ar ôl gweld darluniau o ysbytai’n methu â dygymod yn ei ddinas enedigol yn Efrog Newydd, mae Donald Trump wedi ymestyn y canllawiau ymbellháu cymdeithasol tan Ebrill 30, er mai’r bwriad oedd dod â nhw i ben ddoe (dydd Llun, Mawrth 31).
“Y peth gwaethaf allai ddigwydd yw eich bod yn ei wneud yn rhy fuan ac yna’n sydyn mae’n dod yn ôl,” meddai Donald Trump mewn cyfweliad ar raglen ‘Fox and Friends’.
Rhybudd y gwyddonwyr
Ddydd Sul (Mawrth 29), dywedodd Dr Anthony Fauci, prif arbenigwr y llywodraeth ar glefydau heintus, y gall yr Unol Daleithiau brofi rhwng 100,000 a 200,000 o farwolaethau a miliynau o achosion o bobol yn cael eu heintio.
Mae hyn yn agoriad llygad i Washington na fyddai’r frwydr yn erbyn y coronafeirws yn cael ei hennill yn gyflym, er i Donald Trump fynegi ei hiraeth am normalrwydd.
“Fyddai hi ddim yn syniad da i dynnu’n ôl ar amser pan ddylech chi fod yn pwyso’ch troed i lawr ar y sbardun yn hytrach na’r brêc,” meddai Dr Fauci wrth CNN.
Disgrifiodd hefyd sut yr oedd o a Dr Deborah Birx, cydlynwyr y tîm gweithredu coronafeirws, wedi dwyn perswâd ar Donald Trump i ail feddwl.
“Fe ddangoson ni’r data iddo,” meddai.
“Fe edrychodd ar y data, ac fe ddeallodd yn syth.
“Roedd yn ddarlun digon clir.
“Aeth Dr Debbie Birx a minnau i Swyddfa’r Ofal, pwyso dros y ddesg a dweud, ‘Dyma’r data. Edrychwch. Ysgytwodd ei ben a dweud, ‘Mae’n debyg fod yn rhaid i ni ei wneud e’.
“Rydw i wedi gweld pethau na welais i erioed o’r blaen.”
‘Neb yn poeni mwy’ na Donald Trump
Dywedodd Donald Trump wrth Fox News and Friends nad oedd “neb” yn “poeni mwy” am effaith economaidd y wlad nag e, ond fe ddywedodd, “Rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth sydd yn rhoi’r nifer lleiaf o farwolaethau i ni.”
Disgrifiodd y darluniau yr oedd wedi ei weld ar y teledu gyda “bagiau cyrff ym mhob man, ar y coridorau”.
“Rydw i wedi bod yn eu gwylio nhw yn dod a tryciau- tryciau rhewgelloedd…. gan nad ydyn nhw’n medru delio hefo’r cyrff, mae ‘na gymaint ohonyn nhw… Rydw i wedi gweld pethau na welais i erioed o’r blaen.”
Mae’r Llywodraeth bellach yn gofyn i Americanwyr baratoi am o leiaf 30 diwrnod arall o darfu economaidd a chymdeithasol, gydag ysgolion a busnesau ynghau.