Bydd ysgolion a chyfleusterau gwarchod plant yn cau o 6 yr hwyr yn Iwerddon heddiw (dydd Iau, Mawrth 12) a ni fyddant yn ail-agor tan Fawrth 29.

Mae hyn er mwyn helpu i rwystro coronavirus rhag lledu ymhellach, medda’r Taoiseach Leo Varadkar wrth gyhoeddi’r mesurau brys.

Bydd dysgu’n cael ei wneud ar-lein yn y cyfamser a bydd “sefydliadau diwylliannol” yn cau hefyd.

Mae cyfarfodydd o dros 100 o bobl a thorfeydd awyr agore o dros 500 o bobl wedi cael eu gwahardd.

Bydd gweithwyr yn cael eu hannog i weithio o adref ond pan fydd pobl mewn swyddfeydd dylai gweithwyr aros ar wahân.

Dylai cyfarfodydd gael eu cynnal o bell, ond caiff bwytai, caffis a busnesau eraill aros yn agored.

“Dylai pobl leihau cyswllt cymdeithasol gymaint ag sy’n bosib,” meddai Leo Varadkar.