Mae camau wedi’u cymryd er mwyn gwneud hi’n haws i bobol dderbyn cyngor meddygol tros fideo.

Daw’r ymdrech yma gan Lywodraeth Cymru wrth i haint coronafeirws – neu COVID-19 – ledu ymhellach ledled y byd.

Bydd modd i bobol siarad â gweithwyr proffesiynol y GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) dros fideo, a heb orfod ymweld â meddyg teulu neu ganolfan iechyd.

Ac mae disgwyl iddo fod o fudd i’r rheiny sydd yn hunan-ynysu oherwydd coronafeirws.

Bydd angen ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur gyda gwe-gamera; er mwyn medru manteisio ar y gwasanaeth .

“Ar flaen y gad”

“Roedden ni eisoes wedi buddsoddi mewn peilot yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“A nawr gallwn ehangu’r dechnoleg hon ledled Cymru i’n helpu wrth i ni ymateb i’r achosion o goronafeirws.

“Bydd y dechnoleg hon yn helpu pobl i gael cyngor gofal iechyd o’u cartrefi [ac yn] helpu’r GIG i ymdopi â’r cynnydd mewn galw.

“Rydw i’n falch ein bod ni ar flaen y gad gyda defnyddio’r dechnoleg ddigidol hon ledled Cymru.”