Mae nifer y marwolaethau o’r coronafeirws wedi codi i 3,400 allan o gyfanswm o dros 100,000 o achosion.

Roedd nifer yr achosion ym Mhrydain wedi codi i 163 erbyn ddoe, a dau glaf o’u plith wedi marw.

Mae’r 100,000 o heintiadau ledled y byd yn llawer mwy na’r achosion o heintiau eraill fel Sars, Mers ac Ebola dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond mae’n dal yn llawer iawn llai’r pum miliwn o achosion difrifol o’r ffliw bob blwyddyn, sy’n arwain at 290,000-650,000 o farwolaethau bob blwyddyn, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae Tsieina wedi cyhoeddi 99 o achosion newydd o’r coronafeirws heddiw, y tro cyntaf ers 20 Ionawr i’r cynnydd dyddiol fod yn llai na 100. Mae 22,177 o gleifion yn cael triniaeth yn y wlad ar hyn o bryd, a 55,404 wedi cael eu rhyddhau.