Y Cyrnol Gaddafi
Mae’r ffordd y cafodd y Cyrnol Gaddafi ei ladd yn Lybia, yn siŵr o achosi mwy o broblemau i’r wlad.

Dyna ddywed gŵr o Lanbedr Pont Steffan a fu’n gweithio i’r diwydiant olew yno am gyfnod ac sy’n dal mewn cysylltiad â phobol yn y wlad.

“Oedd, roedd hi’n bwysig cael gwared arno fe,” meddai Weislaw Gdula, “ond dim yn y ffordd wnaethon nhw ddelio ag e.”  Roedd yn ymateb i honiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barrack Obama bod marwolaeth Gaddafi yn ddigwyddiad “eithriadol o bwysig yn hanes Libya.”

Yn ôl Weislaw Gdula, mae’r modd y cafodd Gaddafi ei ladd, ac yna’i ddarlledu, yn debygol o achosi mwy o drwbl wrth geisio creu trefn newydd yn Libya.

“Y pryder yw beth sy’n mynd i ddigwydd nawr. Galle hyn fynd ymlaen am flynyddoedd – mae ’na bobol yna sy’n dal i gefnogi Gaddafi,” meddai. “Ac ar ben hynny does neb sy’ dan 42 oed yna wedi byw dan unrhyw fath o drefn lywodraethol arall.

“Dw i’n ofni y bydd lot o helynt yna eto,” meddai gan droi at sgrin y cyfrifiadur sy’n ei gadw mewn cysylltiad â’i ffrindiau yn Lybia.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref