“Dyma’r adeg waethaf un i bobol ifanc feddwl am ddilyn gyrfa yn y cyfryngau yng Nghymru,” yn ôl arweinydd undeb darlledu.
Mae Madoc Roberts o undeb Bectu sy’n cynrychioli gweithwyr adloniant a’r cyfryngau yn galw am “gysondeb” ym mholisïau S4C.
Bellach, mae’n ymddangos bod y Sianel yn ymbellhau oddi wrth yr arferiad o gomisiynu gwaith gan lond llaw o gwmnïau mawr, meddai. Yr wythnos diwethaf daeth cyhoeddiad bod 25 o gwmniau gwahanol wedi’u dewis i baratoi rhaglenni yn y rownd gomisiynu ddiweddaraf. Roedd bron i fil o syniadau a chynigion wedi dod i law.
Mae Boomerang, sy’n un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru, eisoes wedi datgan y bydden – o ganlyniad i doriadau gan S4C – yn gwneud 20 o bobol yn ddi-waith.
“Mae gen i bechod dros y bobol ifanc hynny ymunodd â chwmni Boomerang am eu bod ar ddeall mai’r cwmnïau mawr oedd y dyfodol. Mae’n ymddangos bod S4C wedi newid polisi ac yn mynd i gyfeiriad hollol wahanol. R’yn ni angen rhyw dair neu bedair blynedd nawr o sicrwydd bydd y polisi hwn yn aros yn gyson.”
Mae’n anorfod, meddai Madoc Roberts, y bydd cwmnïau cynhyrchu eraill, fel Boomerang, yn ystyried diswyddiadau,“hynny neu ecsbloetio gweithwyr – mae yna unai llai o waith yn mynd i fod yn y diwydiant neu mae’r gwaith hynny yn mynd i fod yn talu’n wael,” meddai.
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 27 Hydref