Mae dau ymgeisydd wedi uno i gefnogi cais arlywyddol Joe Biden wrth i Ddemocraitiaid cymhedrol ruthro i roi hwb i’r cyn-Ddirprwy Arlywydd oriau cyn i’r pleidleisio ddechrau ar draws sawl talaith dyngedfennol.

Ddoe (dydd Llun, Mawrth 3), ildiodd Amy Klobuchar ei hymgyrch ei hunan a chefnogi Joe Biden, ddiwrnod ar ôl i Pete Buttigieg gyhoeddi ei fod yntau’n rhoi gorau iddi’n swyddogol hefyd.

Mae disgwyl i Pete Buttigieg, cyn-Faer South Bend yn Indiana, gyhoeddi ei gefnogaeth i Joe Biden mewn rali yn Dallas.

Daeth y datblygiadau hyn i’r amlwg ar noswyl Dydd Mawrth Mawr (Super Tuesday), pan fydd 14 talaith yn pledleisio dros eu hymgeiswyr.

Bernie Sanders yw’r ceffyl blaen o hyd, ond mae gweddill y ras yn fwy cythryblus, er i Joe Biden ennill yn Ne Carolina ac er i Amy Klobuchar, Pete Buttigieg a’r biliwnydd Tom Steyer adael y ras.

Ond fe all y biliwnydd o frog Newydd Mike Bloomberg achosi trafferthion i Joe Biden.

Bydd Mike Bloomberg yn ymddangos ar y bleidlais am y tro cyntaf heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 3), ac mae wedi buddsoddi mwy na hanner biliwn o ddoleri yn ei gais arlywyddol ac wedi casglu llawer iawn o gefnogaeth ariannol.

Bernie Sanders

Nod Bernie Sanders er hyn yw ennill Califfornia, coron Dydd Mawrth Mawr.

Mae’r dalaith yn cynnig 415 o ddirprwyon, sydd yn fwy na dwywaith y nifer yn Iowa, New Hampshire, Nevada a De Carolina.

Mae’n darogan buddugoliaeth yng Nghaliffornia ac mae wedi casglu miloedd o gefnogwyr mewn sawl gorsaf ac wedi ymosod ar record polisi tramor Joe Biden, ei bolisïau masnach a diogelwch cymdeithasol, ymhlith materion eraill.

“Nid fy mhwynt i yma yw bod yn negyddol am Joe,” meddai Bernie Sanders.

“Fy mhwynt i yma yw gofyn i chi, ‘Pa ymgyrch sydd yn mynd i guro Donald Trump?’”